Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (258)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau i fynd i’r afael â’r nifer frawychus o danau glaswellt a gaiff eu cynnau yn fwriadol? EAQ(4)0548(PS) |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y diweddaraf am weithredu Dedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (30 munud) |
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Strategaeth Digidol yn Gyntaf (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Mannau Glanach, Mwy Diogel ar gyfer ein Cymunedau (30 munud) |
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru (30 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y tair eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: |
7 Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (5 munud) NDM3736 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015. Dogfennau Ategol |
8 Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (5 munud) NDM3737 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015. Dogfennau Ategol
|
9 Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) (Cymru) (5 munud) NDM3738 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015. Dogfennau Ategol |
10 Dadl ar Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru (60 munud) NDM3739 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, a b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Yn is-bwynt b), dileu 'cyflym' a rhoi 'gwell' yn ei le. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod mynediad at wasanaethau brys yng Nghymru wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i israddio ysbytai, perfformiad gwasanaeth ambiwlans gwael a'r toriadau mwyaf erioed i gyllideb y GIG. Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar wasanaethau brys yng Nghymru. Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys. Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant. Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am sefydlu Canolfan Gofal Brys yn Sir Drefaldwyn i ddod â gofal yn nes at ein cymunedau a lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Wrecsam a'r Amwythig, oherwydd y nifer cynyddol o gleifion sy'n teithio'n bell i gael mynediad at ofal o ganlyniad i ddiffyg cynllunio cydgysylltiedig rhwng byrddau iechyd. Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys. |
11 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2015